Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 28 Mawrth 2022
Amser:
13.30 -
15.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12648
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Alun Davies AS Peter Fox AS |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
2.1 SL(6)176 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 SL(6)175 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Cynlluniau Blaendal) (Gwybodaeth Ofynnol) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.2 SL(6)177 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.3 SL(6)178 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diogelu Eiddo mewn Anheddau y Cefnwyd Arnynt) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.4 SL(6)182 – Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3.5 SL(6)180 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3.6 SL(6)185 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.7 SL(6)186 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd yn flaenorol
4.1 SL(6)118 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog.
5 Fframweithiau cyffredin
5.1 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y fframweithiau cyffredin dros dro ar Ddiogelu Iechyd y Cyhoedd a Diogelwch Iechyd; Diogelwch ac Ansawdd Gwaed; ac Organau, Meinweoedd a Chelloedd (ar wahân i embryonau a gametau)
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
5.2 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig: Fframwaith Cyffredin dros dro ar Gemegau a Phlaladdwyr
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
5.3 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig: Fframwaith Cyffredin dros dro ar Iechyd a Lles Anifeiliaid
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
5.4 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig: Fframwaith Cyffredin dros dro ar Reoli a Chefnogi Pysgodfeydd
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
6 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
6.1 Gohebiaeth at y Prif Weinidog: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth at y Prif Weinidog.
7 Papurau i’w nodi
7.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.
7.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diweddariad ar dreialu trefniadau pleidleisio hyblyg
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
7.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3 a Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Diogelwch Adeiladau
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
7.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Cynllun Masnachu Allyriadau y DU
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Iaith Arwyddion Prydain – Trafod y nodyn cyngor cyfreithiol
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Iaith Arwyddion Prydain, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Etholiadau – Trafod y nodyn cyngor cyfreithiol
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) Llywodraeth Cymru ar y Bil Etholiadau. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a’r llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ynglŷn â’r memorandwm atodol.
Nododd y Pwyllgor fod dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil wedi’i threfnu ar gyfer 29 Mawrth 2022. Cytunodd y Pwyllgor na fyddai’n cyflwyno adroddiad ar y memorandwm atodol yn sgil y terfyn amser tynn ar gyfer gwneud hynny.
11 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2 a Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) – Trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.
12 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) – trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno, yn amodol ar fân newidiadau.
13 Y rhaglen fframweithiau cyffredin – I’w hystyried
Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar y rhaglen fframweithiau cyffredin, a chytunodd arno.
14 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Diogelwch Adeiladau
Trafododd y PwyllgorFemorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Diogelwch Adeiladau, a chytunodd na fyddai’n cyflwyno adroddiad arno yn sgil y terfyn amser tynn ar gyfer gwneud hynny.